Policy and Public Affairs Coordinator – British Heart Foundation Cymru

All Locations: Dual – Cardiff office & home 

Salary Details: £22,000 – £24,500 p/a + benefits 

Hours Per Week: 35

Closing Date: 23 Jul 2023

Vacancy Type: Permanent

Further information about this role is available on the BHF Cymru website here.


About the role

British Heart Foundation Cymru has an exciting opportunity for a Policy and Public Affairs Coordinator to join the team to support the delivery of the policy and public affairs programmes in Wales.

With a commitment to evidenced based policy development and solutions focussed influencing, you’ll support the Policy and Public Affairs Manager and Senior Policy and Public Affairs Manager to deliver effective parliamentary and governmental engagement as well as policy development. 

You’ll be responsible for horizon scanning and opportunity identification to advance the aims and objectives of the BHF, as detailed in the 2030 strategy, and will undertake a wide range of duties that will enable you to apply an analytical approach to identifying, understanding and communication information through a wide range of channels.   

Our award-winning policy and public affairs team in Wales is committed to ensuring our research is communicated to Welsh Government and the Senedd. This is a great opportunity for an individual looking to gain experience in a dynamic policy and public affairs team and put their mark on the work we do.

Working arrangements

This is a blended role, where your work will be dual located between your home and our Cardiff office. 

At the BHF we believe in the power of being together, so our colleagues on blended contracts can expect to spend some time in their office, at least one day each week, on average.  The use of our office spaces is driven in part by your role and the activities you need to do. This may vary from time to time, so you will need to work in a flexible way to unlock your best work for our cause. 

Need more help balancing your work and home life? Talk to us about what flexibility is available at the application or interview stage.  

About you

You’ll be looking to begin your career in policy and public affairs and will be able to display strong analytical skills, communication skills and demonstrate an ability to work as part of a small team. 

You’ll have a proven ability to write clearly, concisely and persuasively, summarising complex information swiftly and accurately for a variety of audiences. With proven experience of effective analytical skills and critical thinking, you’ll be able to understand and interpret complex policy issues and express them effectively to a range of audiences.

You’ll be able to plan your own workload, ensure effective time management and meet deadlines.

With strong communication skills, you’ll have a commitment to the high standards of relationship management in order to achieve the best outcome and will be able to work under your own initiative, proactively seizing opportunities to benefit the BHF.

About us

Our people are at the heart of everything we do. By funding research across six decades, we’ve helped keep millions of hearts beating and millions of families together. We’re investing in ground-breaking research that will get us closer than ever to a world free from the fear of heart and circulatory diseases.

We value and respect every individual’s unique contribution, celebrate diversity, and make inclusion part of what we do every day. 

Our Equality, Diversity and Inclusion (EDI) Strategy, Igniting Change, along with our internal EDI group, Kaleidoscope, and a growing number of employee network groups (our Affinity Groups), help us create an environment where all our colleagues and volunteers can succeed.

What can we offer you

To find out more about benefits available at the BHF please download our benefits document at the bottom of this page.

Interview process 

The interview process will be held w/c 31st July via MS Teams, and will include a short presentation, prepared ahead of time.  

How to apply 

It’s quick and easy to apply for a role at the BHF. Just click on the apply button below. All you’ll need is an up to date CV and a supporting statement, outlining your interest in the role and how you meet the role’s criteria.

As part of our commitment to be an inclusive employer, and ensure fairness and consistency in selecting the best candidate for this role, the BHF will use anonymous CV software as part of the application journey.

Should you need any adjustments to the recruitment process, at either application or interview, please contact us

Ydych chi’n awyddus i gael profiad o weithio ym maes polisi a materion cyhoeddus? 


Hoffech chi fod yn rhan o waith ymgyrchu un o elusennau mwyaf y Deyrnas Unedig?
 
Gair am y swydd


Mae cyfle cyffrous wedi codi yn British Heart Foundation Cymru. Mae angen Cydgysylltydd Polisi a Materion Cyhoeddus i ymuno â’r tîm i helpu â’r gwaith o gynnal y rhaglenni polisi a materion cyhoeddus yng Nghymru.


Bydd gennych ymrwymiad i ddatblygu polisïau ar sail tystiolaeth ac i ddylanwadu mewn ffordd sy’n canolbwyntio ar atebion a byddwch yn cefnogi’r Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus a’r Uwch-reolwr Polisi a Materion Cyhoeddus i ymwneud yn effeithiol â Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn ogystal ag i ddatblygu polisïau. 


Byddwch yn gyfrifol am sganio’r gorwel ac am adnabod cyfleoedd i hyrwyddo nodau ac amcanion y BHF, fel y nodir yn strategaeth 2030, a byddwch yn ymgymryd â dyletswyddau amrywiol a fydd yn eich galluogi i fynd ati mewn ffordd ddadansoddol i ganfod, deall a chyfleu gwybodaeth trwy nifer o wahanol ddulliau.   


Mae ein tîm polisi a materion cyhoeddus arobryn yng Nghymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Llywodraeth Cymru a’r Senedd yn cael gwybodaeth am ein hymchwil. Dyma gyfle gwych i rywun sy’n awyddus i fagu profiad mewn tîm polisi a materion cyhoeddus deinamig ac i adael eu hôl ar ein gwaith.

Y trefniadau gweithio


Mae hon yn swydd gyfunol a byddwch yn gweithio mewn dau le – eich cartref a’n swyddfa ni yng Nghaerdydd. 


Rydym ni yn y BHF yn credu yng ngrym bod gyda’n gilydd. Felly gall ein cydweithwyr sydd ar gontractau cyfunol ddisgwyl treulio peth amser yn eu swyddfa – o leiaf un diwrnod yr wythnos ar gyfartaledd.  Mae’r defnydd a wneir o’n swyddfeydd yn dibynnu’n rhannol ar eich swydd chi a’r gwaith y mae angen i chi ei wneud. Gall hyn amrywio o bryd i’w gilydd, felly bydd angen i chi weithio mewn ffordd hyblyg er mwyn datgloi eich gwaith gorau ar gyfer ein hachos. 


Oes angen help arnoch i gydbwyso bywyd gwaith a chartref? Cewch drafod yr hyblygrwydd sydd ar gael gyda ni wrth wneud cais neu adeg y cyfweliad.  
 
Gair amdanoch chi


Byddwch yn awyddus i gychwyn eich gyrfa ym maes polisi a materion cyhoeddus a byddwch yn gallu dangos eich bod yn dda am ddadansoddi a chyfathrebu a’ch bod yn gallu gweithio fel rhan o dîm bychan. 


Byddwch wedi profi’ch bod yn gallu ysgrifennu’n glir, yn gryno ac yn argyhoeddiadol, gan grynhoi gwybodaeth gymhleth yn gyflym ac yn gywir ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol. Bydd gennych brofiad pendant o sgiliau dadansoddi effeithiol a meddwl yn feirniadol, a byddwch yn gallu deall a dehongli materion polisi cymhleth a’u mynegi’n effeithiol wrth wahanol gynulleidfaoedd.


Byddwch yn gallu cynllunio’ch llwyth gwaith eich hunan, rheoli’ch amser yn effeithiol a chwblhau gwaith yn brydlon.

Bydd gennych sgiliau cyfathrebu cryf ac ymrwymiad i gyrraedd safonau uchel wrth reoli perthnasoedd er mwyn sicrhau’r canlyniadau gorau. Byddwch yn gallu ysgogi’ch hunan i weithio gan fynd ati i fanteisio ar gyfleoedd er lles y BHF.

Gair amdanom ni


Mae ein pobl wrth galon popeth a wnawn. Trwy ariannu gwaith ymchwil dros chwe degawd, rydym wedi helpu i sicrhau bod miliynau o galonnau’n dal i guro a miliynau o deuluoedd yn dal gyda’i gilydd. Rydym yn buddsoddi mewn gwaith ymchwil arloesol a fydd yn dod â ni’n nes nag erioed at fyd heb ofn clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed.


Rydym yn gwerthfawrogi ac yn parchu cyfraniad unigryw pob un, yn dathlu amrywiaeth, ac yn gwneud cynhwysiant yn rhan o’r hyn a wnawn o ddydd i ddydd. 


Mae ein Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EDI), Igniting Change, ynghyd â’n grŵp EDI mewnol, Kaleidoscope, a nifer cynyddol o grwpiau rhwydweithiau gweithwyr (ein grwpiau Affinity), yn ein helpu i greu amgylchedd lle gall ein holl gydweithwyr a gwirfoddolwyr lwyddo.

Beth allwn ni ei gynnig i chi?


Os hoffech wybod rhagor am y buddion sydd ar gael yn y BHF, gallwch lawrlwytho ein dogfen fuddion sydd ar waelod y dudalen.

Y broses gyfweld 


Cynhelir y broses gyfweld dros MS Teams. 

Sut i ymgeisio 


Mae ymgeisio am swydd gyda’r BHF yn broses hawdd a sydyn. Cliciwch ar y botwm ‘Apply’ isod. Y cyfan y bydd arnoch ei angen yw CV cyfredol a datganiad ategol yn amlinellu’ch diddordeb yn y swydd a sut rydych yn bodloni’r meini prawf.
Fel rhan o’n hymrwymiad i fod yn gyflogwr cynhwysol ac er mwyn sicrhau tegwch a chysondeb wrth ddewis yr ymgeisydd gorau ar gyfer y swydd, bydd y BHF yn defnyddio meddalwedd CVs di-enw fel rhan o’r daith ymgeisio.


Hoffem eich annog i wneud cais yn fuan gan y byddwn yn ystyried y ceisiadau trwy gydol y cyfnod hysbysebu a’n bod yn cadw’r hawl i gau’r hysbyseb yn gynnar.


Os bydd arnoch angen rhyw addasiadau i’r broses recriwtio, wrth ymgeisio neu ar gyfer y cyfweliad, mae croeso i chi gysylltu â ni.